Gan
Robert A. Newell
Llwybrau a Phersbectif
Mae llwybrau sy’n arwain i bellteroedd cudd, i’r anhysbys,
yn rhywbeth sydd wedi denu dyn erioed. Wrth edrych ar hyd y llwybr,
mae rhywun yn tueddu i feddwl am deithio a cheir y syniad bod persbectif
yn cael ei gyfuno gydag amser. Mae grym rhyfedd gan lwybr sy’n
dirwyn hyd dragwyddoldeb ac mae’r llwybrau eraill a welir yma
ac acw, a phersbectifau amrywiol yn cyfleu gwahanol fydoedd o bosibiliadau
a dirgelwch. Yn y peintiad Wayland’s Smithy, mae’r awyr
yn cael ei adlewyrchu mewn pyllau o dd_r ar hyd lôn sydd â
choed tywyll o boptu iddi. Nid dim ond adlewyrchiadau sydd yma serch
hynny - mae’r awyr fel petai’n rhan annatod o’r ddaear
ac mae gwrthgyferbyniadau fel hyn yn rhoi ansawdd swrrealaidd i’r
gwaith. Yn Thaw, un o beintiadau diweddaraf Davies’ o lwybrau
drwy’r coed, mae traciau olwynion mewn eira tawdd yn cyfleu’r
syniad bod bywyd yn fyr.
Mae’r
llonyddwch sy’n nodweddu peintiadau Davies yn cael ei greu drwy
achosi tyndra gyda’r posibilrwydd o symudiad. Mae’r cyflwr
llonydd hwn yn dod hyd yn oed yn fwy amlwg wrth weld y fforestydd o
goed annaturiol o dywyll sy’n debyg i silwetau. Drwy hyn mae’r
arlunydd yn cyfuno mynegiant gyda swyddogaeth gyfansoddiadol.
Dros y blynyddoedd mae Davies wedi symud o weithiau storïol, ffigurol
i waith sy’n ymwneud â thirweddau. Yn ei waith mae dynoliaeth
yn cael ei chynrychioli gan olion llwybrau drwy’r coed, golau
artiffisial, llwybr anwedd awyrennau a phethau eraill tebyg. Mae’r
olion bychain hyn o bresenoldeb dyn mewn gwagle anferth yn ein hannog
i feddwl am fyrhoedledd dyn, ac i bryderu bod pethau’n diflannu’n
raddol. Yn ei luniau o gymylau, caiff y syniad hwn o fyrhoedledd ei
ymestyn i’r elfen gyfnewidiol ym myd natur.
Goleuni
a Thywyllwch
Yr
ysbrydoliaeth ar gyfer themâu sy’n drech na ble a phwy yw
mannau o gwmpas cartref Davies yn Sir Gâr, ynghyd â phynciau
o ardaloedd pellach. Mae Sun Days yn seiliedig ar ardd yr arlunydd.
Yn y llun, mae dwy sedd wag yn wynebu’i gilydd o boptu bwrdd â
pharasol sy’n dyst i absenoldeb yr haul. Mae golau trydan a llygedyn
cyntaf y wawr yn brwydro am eu lle mewn eiliad sydd y tu hwnt i amser.
Wrth edrych allan o stiwdio Davies gyda’r hwyr, gellir gweld trwch
o goed a llwyni tywyll yn erbyn awyr y nos. Mae’r profiad penodol
hwn yn dod ag unigrywiaeth y cartref i gysylltiad â themâu
oesol.
Yn frith draphlith drwy fyfyrdodau Davies o fyrhoedledd dyn mae rhyw
ymddieithrwch sy’n ennyn melancoli. Maes o law bydd y sioe o oleuadau
trydan yn y nos yn cael eu diffodd, bydd tai na ellir ond prin eu gweld
yn diflannu’n gyfan gwbl, ac mae goleuadau gwan y ceir a’r
stryd yn taflu gwawl ar ffyrdd sy’n arwain i dywyllwch oesol.
Mae Davies yn teimlo fod gan ei waith gysylltiad cryf â pheintiad
René Magritte’s (1898-1967) L’empire des lumières.
Mewn llythyr at ffrind, disgrifiodd Magritte sut y cafodd y syniad,
wrth beintio, bod dydd a nos yn cyd-fodoli:
After I had painted L’empire des lumieres I got the idea that
night and day exist together, that they are one. This is reasonable,
or at the very least it’s in keeping with our knowledge: in the
world, night always exists at the same time as day. (Just as sadness
always exists in some people at the same time as happiness in others.)
But such ideas are not poetic. What is poetic is the visible image of
the picture
(Magritte in Whitfield 1992: n.p.).
Pwysleisiai Magritte y gall syniadau gael eu creu gan beintiadau yn
hytrach na chael eu cyfleu ganddynt yn unig. Mae peintiadau Davies yn
ddehongliadau dwbl ac amwys, sy’n ymddangos fel petaent yn mynd
yn dywyllach neu’n oleuach wrth i rywun edrych arnynt. Mae hyn
yn creu drama fyfyrgar o oleuni a thywyllwch sy’n dwyn i gof Approaching
Thunder Storm gan Martin Johnson Head (1819-1904). Tirweddau haniaethol
sydd yng ngwaith Davies sy’n llawn symbolaeth awgrymog ym mhob
agwedd ar eu cyfansoddiad a’u pwnc. Mae’r ddeuoliaeth o
oleuni a thywyllwch yn cael ei hategu gan gynhesrwydd ac oerni, awyr
a daear, sydd, gyda’i gilydd, yn mynegi dianc a hiraeth, lloches
a bygythiad. Mae’r tywyllwch yn estyn gwahoddiad a hefyd yn cadw
rhywun draw. Mewn llun cynharach o’i eiddo - Front - gwelir cwch
hwylio bychan, llygedyn o fywyd byrhoedlog arall, yn herio gwagle anferth
tra mae cymylau duon yn ymgasglu ar y gorwel. Yn ôl disgrifiad
Wilhelm Worringer (1881-1965) o’r dull:
… immense spiritual dread of space`` compensated for in art forms
that, ``taking the individual thing of the external world out of its
arbitrariness and seeming fortuitousness, of eternalising it by approximation
to abstract forms and, in this manner, of finding a point of tranquillity
and refuge from appearances (Worringer 1963: 15-16).Ym mhob cyfrwng
mae math penodol o haniaeth sy’n rhan o’r deunyddiau a’r
technegau ac yn yr haniaeth hwnnw mae cyfle i ddehongli’r pwnc
dan sylw. Heb y croesi hwn byddai cyfryngau penodol yn mynd yn ddiflas
ac yn ailadroddus. I
Davies,
mae ffotograffiaeth yn dod â nodweddion penodol o arlliw ac amwysedd
i iaith peintiadau. Yn ddiweddar, mae Davies wedi dechrau arbrofi gyda
phosibiliadau fideo. Yn Aderyn/Birdsong Trail mae’n archwilio
golau sy’n diflannu’n raddol a digwyddiadau estynedig fel
dilyniant agos o aderyn yn canu mewn coeden. Yn y fideo mae’r
un ymdeimlad o goed tywyll yn erbyn golau isel ag sydd yn y peintiadau.
Mae symudiadau tawel y canghennau yn tynnu ein sylw at yr awel ac mae
amser ei hun fel petai’n aros. Yn sydyn mae’r aderyn yn
hedfan i ffwrdd. Mae’r dilyniant o lwybr anwedd a chân aderyn
yn tynnu sylw at olion dynol sy’n arbennig o arallfydol a byrhoedlog.
Amlygir llonyddwch y foment gan gwmwl dibatrwm o glêr. Disgleiria
golau’r hwyr ar y llwybr anwedd gan roi iddo wawl cynnes. Mae’r
awgrym o hedfan a dyheadau dyn yn dod yn rhan o ehangder mawr yr awyr,
ac mae’r llwybr anwedd yn diflannu dros frigau’r coed yn
y pellter fel corned gwyn.
Empathi
ac Ymddieithrwch
Mae’r
coed pîn yn Thaw yn cyfleu llonyddwch tywyll sy’n uniaethu
gyda fforestydd Caspar David Friedrich (1774-1840) a Max Ernst (1891-1976).
Yn yr un modd, ym mheintiad Davies o goeden yng Ngelli Aur, mae’r
canghennau sy’n ymestyn allan yn cyfleu rhyw bersonoliaeth ryfedd.
Mae llystyfiant tywyll y coed yn cyfateb i’r ymwybyddiaeth ddynol
a’i hanfod direswm. Ym mheintiadau Davies mae tyndra rhwng empathi
ac ymddieithrwch ac mae hynny’n rhan annatod o’n profiad
ni o natur.
Pan oeddem yn trafod coed a llwybrau soniodd Davies am Nausea Jean-Paul
Sartre (1905-80). Mae paragraff penodol yn y gwaith hwn yn berthnasol
iawn i’r peintiadau. Yn y paragraff ceir y prif gymeriad Antoine
Roquentin yn disgrifio ei brofiad o gastanwydden mewn parc, ac mae’r
digwyddiad hwnnw yn ennyn teimlad dwys o ba mor abs_rd yw bodolaeth:
I was the root of the chestnut tree. Or rather I was entirely conscious
of its existence. Still detached from it-since I was conscious of it-yet
lost in it, nothing but it. … Time had stopped … All was
fullness and all was active, there was no weakness in time, all, even
the least perceptible stirring, was made of existence. And all these
existents which bustled about this tree came from nowhere and were going
nowhere. Suddenly they existed, then suddenly they existed no longer:
existence is without memory …(Sartre 1962: 177-9).
Mae’r darn hwn am gysyniad byw o fodolaeth a’i natur ddamweiniol
yn amrywiaeth ar yr elfen seicolegol gymhleth o wrthrychedd, yn enwedig
yn y ffordd y mae’n ymwneud â’r arwahanrwydd sydd
mor ganolog i Ramantiaeth. Honnai’r bardd Novalis (Georg Friedrich
von Hardenberg,1772-1801) ei fod yn awyddus i godi ei hun i’r
lefel honno a gysylltir yn gyffredin â’r berthynas ddwyffordd
hon:
The true philosophical act is the slaying of the self; this is the real
beginning of all philosophy, therein lies the requirement for all philosophic
youths, and only this act answers all criteria and conditions for the
transcendental deed (Novalis 1989: 16).
Disgrifiodd Friedrich Daniel Schleiermacher (1768-1834) y cyflwr hwn
mewn modd sy’n debyg iawn i’r hyn ym mheintiadau Friedrich
lle mae gwahanol gymeriadau yn myfyrio ar dirweddau eang:
Each human soul … is merely a product of two opposing drives.
The one strives to draw into itself everything that surrounds it, ensnaring
it in its own life and, wherever possible, wholly absorbing it into
its innermost being. The other longs to extend its own inner self ever
further, thereby permeating and imparting everything from within …(Schleiermacher
1988:80).
Mae codi’r hunan i ryw lefel a dinistrio’r hunan ar y naill
law, a’r ymwneud dwys â chragen galed yr elfennau allanol
ar y llaw arall, yn llawn amwysedd. Er bod y Rhamantwyr, ar y cyfan,
yn chwilio am yr hanfod ysbrydol oddi mewn, mae ansicrwydd annifyr yn
y ffordd y mae Davies yn trafod goddrychedd dieithr a’r byd gwrthrychol,
sy’n ei arwain i realaeth dywyll iawn.
Robert A. Newell
Llyfryddiaeth
Sartre, J-P. [1938] 1962 Nausea, (Alexander, L. cyf.), Llundain: Hamish
Hamilton
Schleiermacher, F. [1799] 1988 On Religion, (Crouter, R. cyf.), Caergrawnt:
Cambridge University Press
Novalis (Hardenberg, G. F. von), 1989 (Versluis, A. cyf.) Pollen and
Fragments : Selected Poetry and Prose of Novalis, Grand Rapids: Phanes
Press
Whitfield, S 1992 Magritte, Llundain: The South Bank Centre
Worringer, W. [1908] 1963 Abstraction and Empathy: A Contribution to
the Psychology of Style, (Bullock, M. cyf), Llundain: Routledge and
Kegan Paul
|